Lleolir y canolfannau uwchgyfrifiadura ym mhrifysgolion Caerdydd ac Abertawe, gyda thimoedd ymchwil ar draws prifysolion y consortiwm yn cael mynediad at y ddwy ganolfan drwy gysylltiadau rhwydwaith cyflym iawn.
Mae’r cyfleusterau gafodd eu huwchraddio yn 2018 yn cynnwys 13,080 o greiddiau prosesu, wedi eu cysylltu â chronfa a storfa gyflymder uchel, yn daparu 1 Petaflop o brosesu cyfrifiadurol. Mae hyn yn cyfateb i un mil miliwn miliwn (1015) o weithrediadau pwynt symudol yr eiliad.