Aeth dau uwch aelod o Uwchgyfrifiadura Cymru i SC18 yn Dallas er mwyn arddangos cyfleusterau a gwaith y rhaglen.
Cyflwynodd yr Athro Martyn Guest a Dr Christine Kitchen gyflwyniadau am sut mae Uwchgyfrifiadura Cymru yn darparu adnoddau cyfrifiadura i ymchwilwyr ar draws y wlad.
Gwrandawodd tua 400 o bobl ar gyflwyniad yr Athro Guest yng Nghyfarfod Cymunedol Uwchgyfrifiadura Dell EMC ar 12 Tachwedd. Daeth cyfle i ymgysylltu â chyflenwyr a darpar gydweithwyr mewn cyflwyniadau eraill yn y gynhadledd.
2018 yw 30ain penblwydd y gynhadledd am gyfrifiadura perfformiad uchel, rhwydweithio, storio a dadansoddi. Nod y gynhadledd yw dathlu cyfraniadau ymchwilwyr a gwyddonwyr ym maes uwchgyfrifiadura.
Daeth dros 13,070 i’r gynhadledd, sy’n fwy nag erioed o’r blaen.