Aeth uwch aelod o Uwchgyfrifiadura Cymru i ISC 2019 yn Frankfurt er mwyn arddangos cyfleusterau a gwaith y rhaglen.
Rhoddodd yr Athro Biagio Lucini gyflwyniad ar sut mae Uwchgyfrifiadura Cymru yn defnyddio pŵer cyfrifiadura perfformiad uchel (HPC) a Deallusrwydd Artiffisial i helpu i ddatrys problemau ymchwil, gan gynnwys datblygu cwch cyflymaf y byd.
ISC High Performanceyw cynhadledd a digwyddiad rhwydweithio hynaf y byd ar gyfer y gymuned cyfrifiadura perfformiad uchel. Yn ystod pum diwrnod o 16-21 Mehefin, roedd y rhaglen yn canolbwyntio ar ddatblygiad technolegol cyfrifiadura perfformiad uchel a’i gymwysiadau mewn meysydd gwyddonol, yn ogystal â’i fabwysiadu mewn amgylcheddau masnachol.
Daeth y gynhadledd â thros 3,500 o ymchwilwyr a defnyddwyr masnachol a 160 o arddangoswyr ynghyd i rannu eu profiadau gyda’r dechnoleg ddiweddaraf a chynhyrchion o ddiddordeb i’r gymuned cyfrifiadura perfformiad uchel.