Cwestiwn
Sut ydw i’n cysylltu â thîm cymorth technegol Uwchgyfrifiadura Cymru?
Lle gallaf ddod o hyd i ddogfennaeth dechnegol ynghylch defnyddio cyfleusterau’r hyb?
Sut ydw i’n cofrestru i ddefnyddio’r cyfleusterau uwchgyfrifiadura?
Pwy yw defnyddwyr y cyfleusterau uwchgyfrifiadura?
Ateb
Gallwch gyflwyno tocyn cefnogol i’r tîm technegol drwy dudalen ‘Cyflwyno Tocyn Cefnogol’ ar y Porthol Defnyddwyr.
Mae llyfrgell o ddogfennaeth dechnegol, gan gynnwys canllawiau, ac arweiniad llawn ynghylch defnyddio systemau Uwchgyfrifiadura Cymru ar gael ar y Porthol Defnyddwyr.
Gall aelodau o staff sy’n cynnal gweithgareddau ymchwil gydag un o bartneriaid consortiwm Uwchgyfrifiadura Cymru – prifysgolion Caerdydd, Abertawe, Bangor ac Aberystwyth – gyflwyno cais am gyfrif gyda Uwchgyfrifiadura Cymru. Gweler yr adran ‘Cael Mynediad’ ar y Porthol Defnyddwyr.
Yn aml, defnyddir cyfleusterau uwchgyfrifiadu i ddadansoddi setiau o ddata sylweddol iawn trwy ddefnyddio meddalwedd i ddatgelu patrymau, tueddiadau a chysylltiadau, yn enwedig yn ymwneud ag ymddygiad a rhyngweithiadau pobl.
Mae cyfleusterau Uwchgyfrifiadura Cymru yn cael eu defnyddio gan grwpiau ymchwil yn y prifysgolion sy’n ffurfio’r consortiwm – Caerdydd, Abertawe, Bangor ac Aberystwyth – ynghyd â chwmnïau a phartneriaid eraill sy’n gweithio ar brosiectau cydweithredol.
Mae’r cyfleusterau uwchgyfrifiadurol gafodd eu huwchraddio yn 2018 yn cynnwys 13,080 o greiddiau prosesu, wedi eu cysylltu â chronfa a storfa gyflymder uchel, yn daparu 1 Petaflop o brosesu cyfrifiadurol. Mae hyn yn cyfateb i un mil miliwn miliwn (1015) o weithrediadau pwynt symudol yr eiliad.
Tra bo gan gyfrifiadur bwrdd gwaith fel arfer 4 craidd prosesu, mae uwchgyfrifiaduron yn cynnwys miloedd o greiddiau. Defnyddir uwchgyfrifiaduron ar gyfer problemau gwyddonol a pheirianegol lle mae angen cyfradd gyfrif neu efelychu uchel iawn.
Dogfennau
Cysylltwch â ni
Uwchgyfrifiadura Cymru
Sefydliad Ymchwil Arloesedd Data
Prifysgol Caerdydd
Adeilad Trevithick
The Parade
Caerdydd
CF24 3AA
Cymru
ymholiadau@uwchgyfrifiadura.cymru