Cynhaliodd Uwchgyfrifiadura Cymru ddigwyddiad “Degawd Newydd o Uwchgyfrifiadura” yng Nghanolfan Mileniwm Cymru yng Nghaerdydd o 23 – 24 Ionawr 2020.
Ystyriodd y gynhadledd, a groesawodd bron i 90 o gynrychiolwyr a nifer o siaradwyr uchel eu proffil, sut bydd Cyfrifiadura Perfformiad Uchel yn datblygu dros y degawd nesaf, a rôl greiddiol uwchgyfrifiaduron yn ein dyfodol.
Meddai Roger Whitaker, Cyfarwyddwr Academaidd Uwchgyfrifiadura Cymru: “Rydym wrth ein boddau’n croesawu ystod mor amrywiol o gynrychiolwyr a siaradwyr i’r gynhadledd. Bydd gan Gyfrifiadura Perfformiad Uchel rôl hanfodol ym maes ymchwil academaidd a diwydiannol dros y degawd nesaf, ac mae Uwchgyfrifiadura Cymru mewn sefyllfa ddelfrydol i hwyluso hynny.”
Dywedodd Biagio Lucini o Brifysgol Abertawe: “Mae’n gyffrous iawn gweld pa mor bell mae Uwchgyfrifiadura wedi dod ymlaen yng Nghymru. Mae’n hwyluso gwaith ar bynciau ymchwil academaidd pwysig ac yn galluogi ein Prifysgolion i ragori ar raddfa fyd-eang. Yn arbennig, mae gennym gymuned fawr o Beirianwyr Meddalwedd Ymchwil ymroddedig sydd wedi cyflwyno newid sylweddol i’r defnydd o systemau Cyfrifiadura Perfformiad Uchel.”
Gellir gweld nifer o gyflwyniadau’r gynhadledd yma.