Ymchwil ledled Cymru sy'n defnyddio uwchgyfrifiaduron
Mae Uwchgyfrifiadura Cymru yn darparu mynediad i gyfleusterau cyfrifiadurol pwerus i brosiectau gwyddoniaeth ac arloesi proffil uchel ledled Cymru, gyda’r nod o ddenu mwy o gyllid ymchwil, cynyddu partneriaethau gwyddonol, creu swyddi ymchwil medrus a chydweithredu gyda phartneriaid diwydiannol a phartneriaid eraill.
Mae Parc Geneteg Cymru ym Mhrifysgol Caerdydd yn manteisio ar y cyfleusterau, gan ei helpu i ddatblygu ei ymchwil arloesol sy’n darparu dealltwriaeth, diagnosis a thriniaethau i ystod eang o glefydau etifeddol a chanser. Mae Prifysgol Abertawe yn defnyddio’r adnoddau i gynhyrchu’r wybodaeth fyd-eang mae ei hangen i ragweld y tywydd a gwella modelau tywydd. Bydd yr algorithmau sy’n cael eu datblygu gan y Brifysgol yn cael eu defnyddio gan Swyddfa Dywydd y DU fel rhan o ragolygon dyddiol y tywydd. Ym Mhrifysgol Aberystwyth, defnyddir y cyfleusterau er mwyn cefnogi prosiectau ymchwil gan gynnwys dilyniant DNA er mwyn bridio planhigion, a heriau ‘Data Mawr’ wrth edrych ar y byd, lle defnyddir y cyfleusterau er mwyn dadansoddi darluniau lloeren eglur iawn i asesu arwyneb y tir a llystyfiant. Ym Mhrifysgol Bangor mae’r cyfleusterau yn cefnogi prosiectau ar ynni llanw a phrosiectau eigionegol. Bydd cyfleoedd iddynt hefyd ryngweithio â phrosiectau SEACAMS 2 a ariennir gan ERDF.