Amdanom Ni
Mae Uwchgyfrifiadura Cymru yn rhaglen fuddsoddi £16m, a rannol ariennir gan Gronfa Datblygu Rhanbarthol Ewrop trwy Lywodraeth Cymru, i ddarparu mynediad at gyfleusterau cyfrifiadura pwerus i dimoedd ymchwil i ymgymryd â phrosiectau gwyddoniaeth ac arloesi uchel eu proffil ym mhrifysgolion y consortiwm – Prifysgol Caerdydd, Prifysgol Abertawe, a Phrifysgol Aberystwyth.
Mae’r rhaglen yn cynnwys buddsoddiad mewn dwy ganolfan uwchgyfrifiadura wedi’u huwchraddio a grŵp newydd o Beirianwyr Meddalwedd Ymchwil ledled Cymru i ddatblygu algorithmau a meddalwedd wedi’i theilwra sy’n manteisio ar bŵer y cyfleusterau. Cefnogir y cyfleusterau gan dîm technegol profiadol ac arbenigol.
Mae’r buddsoddiad yn darparu amgylchedd sy’n cefnogi cyflwyno rhagor o ymchwil a ariennir yn allanol. Bydd hyn yn digwydd trwy gynyddu partneriaethau gwyddonol, cefnogaeth i swyddi ymchwil medrus, a chydweithio pellach gyda phartneriaid diwydiannol ac eraill. Mae hyn yn galluogi newid slweddol i ymchwil wyddonol a alluogir gan uwchgyfrifiadura yng Nghymru.