Cyfleuster ymchwil uwchgyfrifiadura i Gymru

Beth yw uwchgyfrifiaduron?
Tra bo gan gyfrifiadur bwrdd gwaith fel arfer 4 craidd prosesu, mae uwchgyfrifiaduron yn cynnwys miloedd o greiddiau. Defnyddir uwchgyfrifiaduron ar gyfer problemau gwyddonol a pheirianegol lle mae angen cyfradd gyfrif neu efelychu uchel iawn.
Pwy yw defnyddwyr y cyfleusterau uwchgyfrifiadura?
Mae cyfleusterau Uwchgyfrifiadura Cymru yn cael eu defnyddio gan grwpiau ymchwil yn y prifysgolion sy’n ffurfio’r consortiwm – Caerdydd, Abertawe, Bangor ac Aberystwyth – ynghyd â chwmnïau a phartneriaid eraill sy’n gweithio ar brosiectau cydweithredol.
Faint o bŵer cyfrifiadura sydd gan y cyfleusterau?
Mae’r cyfleusterau uwchgyfrifiadurol ar hyn o bryd yn cynnwys dros 30,000 o greiddiau prosesu, wedi eu cysylltu â chronfa a storfa gyflymder uchel, yn daparu 2 Petaflops o brosesu cyfrifiadurol. Mae hyn yn cyfateb i dwy fil miliwn miliwn (2×1015) o weithrediadau pwynt symudol yr eiliad.
Beth yw Data Mawr?
Defnyddir cyfleusterau uwchgyfrifiadura yn aml i ddadansoddi setiau data mawr iawn a ategir gan ofynion storio eithafol er mwyn trosoledd meddalwedd i ddatgelu patrymau, tueddiadau a chysylltiadau, yn enwedig yn ymwneud ag ymddygiad a rhyngweithiadau dynol.

Galluogi ymchwil o’r radd flaenaf yng Nghymru

Prifysgol Aberystwyth
Prifysgol Caerdydd
Prifysgol Bangor
Prifysgol Abertawe